Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Hybrid - Digital |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 8 Tachwedd 2021 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.10 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Kevin Tumelty, Pennaeth Diogelwch Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 27 Medi.
2 Diogelwch
Hysbyswyd y Comisiynwyr am gynlluniau a chanllawiau yn ymwneud â phrotestiadau ar yr ystâd.
Fe'u hysbyswyd hefyd o fesurau diogelwch ychwanegol sy'n cael eu roi ar waith er mwyn rhoi cyngor i’r Aelodau a’u staff a gwella eu diogelwch personol, ochr yn ochr â'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael. Roedd camau hefyd yn cael eu cymryd i symleiddio'r broses o gyflwyno newidiadau diogelwch angenrheidiol. Cytunodd y Comisiynwyr y byddant yn pwysleisio i’w grwpiau ba mor bwysig ydyw i’r Aelodau ymgysylltu â gwasanaeth diogelwch y Comisiwn.
Roedd y Comisiwn wedi cael cais i ystyried cymryd rhan yng nghynllun diogelwch cymunedol Safe Place. Ar ôl ystyried y goblygiadau yn ofalus, roedd y Comisiynwyr yn teimlo na ddylai'r Comisiwn ymuno â'r cynllun o safbwynt risg diogelwch; fodd bynnag, nodwyd a chroesawyd ymdrechion y timau diogelwch ar y safle i gynnig cefnogaeth anffurfiol ar sawl achlysur.
3 Ymateb i’r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r Gyllideb
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22 drwy'r broses graffu.
Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gwnaethant gymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 a osodwyd ar 10 Tachwedd.
4 Cyfeiriad Strategol y Comisiwn
Yn dilyn ystyriaeth ym mis Gorffennaf a mis Medi o’r hyn a ddysgwyd, prif sbardunau ar gyfer newid a'r dull ystwyth o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, cytunodd y Comisiynwyr ar strategaeth y Comisiwn, a fydd yn pennu cyfeiriad lefel uchel ar gyfer ei waith dros y pum mlynedd nesaf.
5 Polisi Urddas a Pharch - adolygiad tair blynedd
Rhoddwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am waith a ddechreuwyd i gynnal adolygiad ym mlwyddyn tri o Bolisi Urddas a Pharch y Senedd, yn unol â'r ymrwymiad yn y polisi.
Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnal ymarfer ymgynghori ddechrau 2022 a fydd yn gofyn i Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn am eu barn am y polisi a'r broses gyfredol.
Gwnaethant gytuno hefyd i ohirio'r arolwg Urddas a Pharch blynyddol 12 mis tan fis Mai/Gorffennaf 2022 unwaith y caiff polisi wedi'i adnewyddu ei gytuno.
6 Diogelu
Nododd y Comisiynwyr y cais diweddar gan Aelod i'r Comisiwn i roi camau ar waith i gyflwyno gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer Aelodau, a nodwyd yr anawsterau yn hyn o beth.
Gwnaethant nodi bod y wybodaeth a'r gefnogaeth i gyflawni eu cyfrifoldebau diogelu ar gael i'r Aelodau, a chytunodd y Comisiynwyr i annog Aelodau'n gryf i roi eu polisïau a'u gweithdrefnau eu hunain ar waith i nodi disgwyliadau clir o ran yr ymddygiadau a ddisgwylir fel rhan o ymrwymiad i ddiogelu; ac i fanteisio ar y ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael iddyn nhw a'u staff trwy Dîm Dysgu’r Aelodau.
7 Y Rhuban Gwyn a’r dull achredu
Trafododd y Comisiynwyr ddull cyfredol y Comisiwn o geisio achrediad, a chytunwyd y dylid datblygu Fframwaith Elusennau ac Achredu. Byddai hyn ar gyfer cefnogi’r Comisiynwyr, neu swyddogion y Comisiwn, i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar gefnogi elusennau a chynlluniau achredu penodol.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd i ystyried yr achos dros geisio achrediad gan y Rhuban Gwyn o dan y fframwaith newydd hwnnw.
8 Ymestyn contract Rheoli Cyfleusterau
Nododd y Comisiynwyr wybodaeth am ymestyn y contract Rheoli Cyfleusterau 11 mis.
9 Papurau i’w nodi:
9.a Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyllid
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyllid yn dilyn y sesiwn graffu ym mis Hydref.
9.b Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn dilyn y sesiwn graffu ym mis Hydref.
9.c Trefniant Aberthu Cyflog ar gyfer Cerbydau Trydan
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth am gynlluniau i gyflwyno Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer cerbydau trydan, a nodwyd y byddai'r Bwrdd Taliadau yn cael gwybod am argaeledd y cynllun er mwyn iddo ystyried unrhyw faterion yn ymwneud â chyflog a lwfansau’r Aelodau.
9.d Nodiadau gan Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd
Cafodd y Comisiynwyr y nodiadau o gyfarfod cyntaf grŵp cyswllt y pleidiau er gwybodaeth.
9.e Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarperir i bob cyfarfod o’r Comisiwn.
10 Unrhyw fater arall
· Diweddariad Covid - presenoldeb ar yr ystâd
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau y gellir cynnal digwyddiadau mor ddiogel â phosibl, gyda lefelau presenoldeb pobl yn gymesur â'r lefelau risg cyfredol.
Fe'u hysbyswyd am y canlynol:
- Trafod gohirio rhai digwyddiadau
- Annog digwyddiadau hybrid i leihau nifer y bobl a fydd yn bresennol wyneb yn wyneb
- Lleihau nifer y bobl sy’n dod yn bersonol i'n rhaglen digwyddiadau (manylion isod)
- Cynyddu’r lle ffisegol sy'n cael ei ddefnyddio
- Atgoffa trefnwyr o'r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb
- Parhau i argymell i drefnwyr y dylai’r rhai sy’n bresennol gymryd Profion Llif Unffordd
- Prosesau asesu risg trwyadl
· Cynghorwyr Annibynnol
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran y trefniadau ar gyfer cynghorwyr annibynnol y Comisiwn a benodwyd am gyfnod o dair blynedd. Tynnwyd sylw at waith ar werthusiad o effeithiolrwydd a’r awydd i symud tuag at gylch mwy graddol ar gyfer penodiadau. Yn unol â hynny, mae’r Comisiynwyr i gael gwybodaeth bellach ar ôl y cyfarfod, ac fe'u gwahoddwyd i rannu unrhyw adborth perthnasol.
· Festival UK
Trafododd y Comisiynwyr y ffaith bod trefnwyr yr ŵyl wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r Senedd fel lleoliad yn ystod toriad yr haf 2022.
Trafodwyd y risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau a fyddai ar weithgareddau eraill o ganlyniad i gymryd rhan yn yr ŵyl. Daeth y Comisiynwyr i'r casgliad bod y risgiau hyn i’w gweld yn anghymesur ac felly nid oeddent yn teimlo y dylid mynd ar drywydd y cyfle.